Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith.Dylunio: Celt IwanCerddoriaeth: Gethin Griffiths, CiwbHawlfraint: S4C, Rondo, SainTroslais: Sian Naiomi, Emyr ‘Himyrs’ Roberts